Yn sir Benfro, rydym yn darparu’r gwasanaethau canlynol:
1. Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA)
Mae gallu manteisio ar IMHA yn hawl statudol i bobl o unrhyw oed yn yr ysbyty, sy’n cael eu trin neu’n cael eu hasesu am gyflwr iechyd meddwl, os ydynt dan gadwad dan y rhan fwyaf o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl neu beidio. Yn ogystal, mae gan bobl yr hawl i gael IMHA pan fyddant yn byw yn y gymuned dan warcheidiaeth, gorchymyn triniaeth gymunedol (CTO), rhyddhad amodol neu absenoldeb Adran 17 estynedig. Pan fydd rhywun dan gadwad mewn ysbyty neu ar CTO, gall fod yn brofiad dryslyd a gofidus iawn. Mae IMHAs yn annibynnol ar iechyd meddwl a gwasanaethau eraill, a byddant yn eich helpu i ystyried eich dewisiadau, sicrhau y clywir eich safbwyntiau, gwneud penderfyniadau gwybodus a deall ac arfer eich hawliau. Gall IMHA wneud gwahaniaeth mawr i brofiad pobl o fod dan gadwad ac fe’u gwerthfawrogir yn fawr gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos mai dim ond tua hanner y bobl y mae ganddynt yr hawl i gael IMHA sy’n cael un mewn gwirionedd.
Cysylltwch â: Sue Williams neu Peggy Spooner ar Ffôn: 01437 762935 – mae gwasanaeth peiriant ateb 24 awr yn cael ei weithredu
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein Neu anfonwch ein ffurflen gyfeirio yma at imha@advocacywestwales.org.uk
Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth
2. Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae hwn yn darparu cymorth eiriolaeth annibynnol 1:1 uniongyrchol i unigolion sydd â phroblem iechyd meddwl ddifrifol, y maent yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yn Sir Benfro a Sir GaerfyrddinGyda phwy yr ydym yn gweithio?
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n cael help gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol neu bobl sy’n teimlo bod angen iddynt gael mwy o help gyda’u hiechyd meddwl nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau, yn ogystal â’r rhai yr aseswyd eu bod heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol.
Beth yw ein rôl?
Byddwn yn archwilio beth yw problemau cleient gyda nhw, a sut y gall eiriolwr eu cynorthwyo. Ein rôl yw helpu pobl i gymryd rhan mor lawn ag y bo modd er mwyn dylanwadu ar unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Os nad ydym yn gallu bodloni eich anghenion o fewn ein gwasanaeth, os oes modd, byddwn yn gwneud ein gorau i geisio’ch cyfeirio at rywun a fydd yn gallu helpu efallai.
Cysylltwch â naill ai Kate Roberts neu Rebecca Arnold ar:
Ffôn: 01437 762935 – mae gwasanaeth peiriant ateb 24 awr yn cael ei weithredu
neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein Cliciwch y ddolen hon am y ffurflen Cyfeiriad Cymunedol
3. Gwasanaethau Anableddau Dysgu a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth
Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Cymunedol i Oedolion ag Anabledd Dysgu a Phobl Awtistig yn darparu’n uniongyrchol 1:1 uniongyrchol i unigolion sy’n 16 oed neu’n hŷn ac sy’n byw yn Sir Benfro.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau, yn ogystal â’r rhai yr aseswyd eu bod heb alluedd meddyliol i wneud y penderfyniadau hynny. Beth yw ein rôl?
Byddwn yn archwilio gyda chleient beth yw’r materion sy’n effeithio ar eich bywyd a sut y gallai eiriolwr eich cynorthwyo. Ein rôl ni yw helpu pobl i gymryd rhan mor lawn ag y bo modd er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Os nad ydym yn gallu bodloni eich anghenion o fewn ein gwasanaeth, os oes modd, byddwn yn ceisio’ch cyfeirio at rywun/sefydliad a fydd yn gallu helpu efallai.
Cysylltwch â naill ai Sue Williams neu Peggy Spooner ar:
Ffôn: 01437 762935 – mae gwasanaeth peiriant ateb 24 awr yn cael ei weithredu
Eiriolwyr ar gyfer Oedolion ag Anabledd Dysgu a Phobl Awtistig yw;
Shelly Newton
Taflenni Eiriolaeth Gorllewin Cymru Trowch at daflenni Eiriolaeth Gorllewin Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth