Amdanom

Eirolaeth Gorllewin Cymru– Llais pan fydd ei angen arnoch fwyaf

Nod:  Lleddfu effeithiau problemau iechyd meddwl, anfantais ac ymddieithrio ymhlith y bobl hynny sy’n cael eu heffeithio ac sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, a’r ardaloedd hynny yng Nghymru sy’n comisiynu eiriolaeth mewn partneriaeth â Gorllewin Cymru, trwy ddarparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol cynhwysfawr.

O ddechreuad bach, mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru (EGC) wedi datblygu i fod yn wasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl arbenigol.  Ym 1993, ffurfiwyd Eiriolaeth Iechyd Meddwl (MAP) Sir Benfro dan nawdd Fforwm Iechyd Meddwl Sir Benfro, ac fe’i hwyluswyd gan Weithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru.  Ers y dechrau, datblygwyd ac arweiniwyd MAP gan gyn ddefnyddwyr gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth presennol, felly roedd cryn bwyslais o fewn MAP ar fod yn ddarpariaeth a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaeth, ac mae hyn yn wir am EGC nawr.

Yn ei ddyddiau cynnar, dim ond un eiriolwr oedd gan MAP, sef Chris Lacey, a drosglwyddodd i’r sefydliad o MIND.

Gyda chymorth Ymddiriedolwyr ac ymchwil a gynhaliwyd gan Meghana Nagaraj o’r angen am ‘Wasanaeth Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer Pobl Hŷn sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl yn Sir Benfro’, yn 2002, a ‘Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol i Blant a Phobl Ifanc sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl yn Sir Benfro’, yn 2003, ehangodd y gwasanaeth.

Llwyddwyd i sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Tudor, Ymddiriedolaeth Henry Doubleday a Phlant mewn Angen y BBC, ynghyd ag elusennau llai o faint niferus.  Yn ogystal, darparwyd cyllid i gynorthwyo’r sector gwirfoddol yn y datblygiad hwn gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).  Cyflogwyd eiriolwyr ychwanegol i ddiwallu’r anghenion er mwyn datblygu’r gwasanaeth.

Esblygodd MAP i fod yn Ddarparwyr Eiriolaeth Iechyd Meddwl gyda datblygiad Gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA) ar gyfer cleifion heb alluedd, mewn partneriaeth ag Eiriol.

Roedd y gwasanaeth, yn yr un modd â’r ddarpariaeth gychwynnol ar gyfer Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (UMHA) dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007, yn ymwneud â’r ddarpariaeth ar draws tair sir Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Llwyddodd MAP i sicrhau’r Marc Perfformiad Ansawdd, a newidiwyd y brand i Eiriolaeth Gorllewin Cymru (EGC) yn 2014.  Yn 2015, bu cais EGC am y contract IMHA newydd yn llwyddiannus, gan sicrhau cyllid i ddarparu’r gwasanaeth tan 2020.  Fel darparwyr annibynnol sy’n ceisio datblygu a darparu amrediad o wasanaethau eiriolaeth, rydym yn parhau i geisio datblygu’r gwasanaeth gyda sefydliadau partner mewn siroedd cyfagos.

This site is protected by wp-copyrightpro.com