Ceredigion Cymru

Mae’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yng Ngheredigion yn cynnwys:

  1. Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA)

Mae gallu manteisio ar IMHA yn hawl statudol i bobl o unrhyw oed yn yr ysbyty, sy’n cael eu trin neu’n cael eu hasesu am gyflwr iechyd meddwl, os ydynt dan gadwad dan y rhan fwyaf o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl neu beidio.  Yn ogystal, mae gan bobl yr hawl i gael IMHA pan fyddant yn byw yn y gymuned dan warcheidiaeth, gorchymyn triniaeth gymunedol (CTO), rhyddhad amodol neu absenoldeb Adran 17 estynedig.  Pan fydd rhywun dan gadwad mewn ysbyty neu ar CTO, gall fod yn brofiad dryslyd a gofidus iawn.  Mae IMHAs yn annibynnol ar iechyd meddwl a gwasanaethau eraill, a byddant yn eich helpu i ystyried eich dewisiadau, sicrhau y clywir eich safbwyntiau, gwneud penderfyniadau gwybodus a deall ac arfer eich hawliau.  Gall IMHA wneud gwahaniaeth mawr i brofiad pobl o fod dan gadwad ac fe’u gwerthfawrogir yn fawr gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.  Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos mai dim ond tua hanner y bobl y mae ganddynt yr hawl i gael IMHA sy’n cael un mewn gwirionedd.

Cysylltwch â:  Sue Williams neu Peggy Spooner ar Ffôn:  01267 223197

Neu defnyddiwch ein ffurflen gysylltu ar-lein Neu anfonwch ein ffurflen gyfeirio yma at imha@advocacywestwales.org.uk

Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth

2. Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae hwn yn darparu cymorth eiriolaeth annibynnol 1:1 uniongyrchol i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd â phroblem iechyd meddwl ddifrifol ac sy’n byw yng Ngheredigion.

Gyda phwy yr ydym yn gweithio? Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n cael help gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol neu bobl sy’n teimlo bod angen iddynt gael mwy o help gyda’u hiechyd meddwl nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd.

Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau, yn ogystal â’r rhai yr aseswyd eu bod heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol.

Beth yw ein rôl?

Byddwn yn archwilio beth yw problemau cleient gyda nhw, a sut y gall eiriolwr eu cynorthwyo.  Ein rôl yw helpu pobl i gymryd rhan mor lawn ag y bo modd er mwyn dylanwadu ar unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.  Os nad ydym yn gallu bodloni eich anghenion o fewn ein gwasanaeth, os oes modd, byddwn yn gwneud ein gorau i geisio’ch cyfeirio at rywun a fydd yn gallu helpu efallai.

Cysylltwch ag:  Ceridwen Kabir ar

Ffôn:  01970 229116

neu defnyddiwch ein  ar-lein

Cliciwch y ddolen hon am y ffurflen Cyfeiriad Cymunedol

3. Eiriolaeth Annibynnol Ceredigion – CIPA Mae gennym wefan ar wahân ar gyfer gwasanaethau CIPA

Taflenni Eiriolaeth Gorllewin Cymru Trowch at daflenni Eiriolaeth Gorllewin Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth

This site is protected by wp-copyrightpro.com