Hysbysiad preifatrwydd

Pwy ydym ni

Mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn elusen sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol yng Ngorllewin Cymru.  Cawn ein hariannu i ddarparu ein gwasanaethau a chasglu gwybodaeth dan gategorïau arbennig GDPR.  Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’n rhif cofrestru yw ZA111303

Ein Swyddog Diogelu Data yw Natasha Fox a’i manylion cyswllt hi yw:

Data personol a chategorïau arbennig o ran data personol

Caiff data personol ei ddiffinio gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Rheoliad UE 2016/679) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir eu hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn arbennig trwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.  Yn fwy syml, mae data personol yn unrhyw wybodaeth amdanoch chi sy’n golygu bod modd eich adnabod.

Er mwyn i ni ddarparu gwasanaeth i chi, mae angen i ni gasglu data personol gan gynnwys gwybodaeth am iechyd, sy’n gategori data personol arbennig.  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu ac yn ei defnyddio yn briodol at y diben hwn, ac nad yw’n ymyriad ar eich preifatrwydd.  Byddwn yn prosesu (casglu, storio a defnyddio) y wybodaeth y byddwch yn ei darparu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Rheoliad Cyffredinol UE ar Ddiogelu Data (GDPR).

Byddwn yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth yn fanwl ac yn cael ei diweddaru, ac ni fyddwn yn ei storio am gyfnod hwy nag sy’n ofynnol gan ein cyllidwyr a’n cyrff llywodraethu.

Rydym yn casglu ystod o ddata am gleientiaid fel y nodir yn ein Polisi Diogelu Data.

Hyd y cyfnod y byddwn yn cadw data

Rydym yn storio data mewn ffordd ddiogel, at ddibenion darparu gwasanaethau yn unig ac am y cyfnod y mae gofyn i ni ei gadw yn unol â deddfwriaeth a chyfarwyddyd ein cyllidwyr.

Eich hawliau

Dan GDPR, mae gennych chi hawliau fel unigolyn, y gallwch eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi.  Y rhain yw;

hawl i gael mynediad i gopi o’r wybodaeth yn eu data personol

hawl i wrthwynebu i weithgarwch prosesu sy’n debygol o beri neu sydd yn peri gofid neu niwed

hawl i atal gweithgarwch prosesau at ddibenion marchnata uniongyrchol

hawl i wrthwynebu i benderfyniadau yn cael eu gwneud mewn ffordd awtomataidd

hawl mewn amgylchiadau penodol i drefnu bod data personol anghywir yn cael ei gywiro, ei atal, ei ddileu neu ei ddinistrio a

hawl i hawlio iawndal am niwed a achoswyd trwy dorri amodau’r ddeddf.

Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau hyn yma.

Ymwelwyr â’n gwefannau

Defnyddio cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis a anfonir i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol gan y gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw.  Maent yn helpu gwefannau i weithio’n well ac yn darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.  Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a’r system weithredol.  Ni ddefnyddir y data er mwyn adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol.  Mae porwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth o cwcis trwy osodiadau’r porwr.  I gael gwybod mwy am gwcis a sut i’w rheoli, trowch at www.allaboutcookies.org.

Eich cyswllt gyda’r wefan hon

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth electronig gan ymwelwyr â’r wefan hon yn uniongyrchol;  adborth ac ymholiadau e-bost.

Ymgynghoriadau, Offerynnau arolygon ar-lein a Rhoi Ar-lein

O bryd i’w gilydd, byddwn yn cynnal arolygon gan ddefnyddio Survey Monkey.  Mae Survey Monkey wedi cynnig sicrwydd eu bod yn bodloni safonau GDPR, er eu bod yn cynnal eu holl ddata yn yr Unol Daleithiau.  Gweler Polisi Preifatrwydd Survey Monkey hefyd.  Rydym yn defnyddio platfformau rhoi ar-lein hefyd, y llywodraethir eu polisïau gan GDPR ac y maent yn cydymffurfio’n llwyr.

Cyswllt trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol

Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol, caiff y neges ei storio gan y platfform sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth GDPR.  Ni chaiff ei rhannu gydag unrhyw sefydliad arall.

Gohebiaeth trwy e-bost

Yn ogystal, byddwn yn monitro unrhyw negeseuon e-bost a anfonir atom, gan gynnwys ffeiliau sydd ar ffurf atodiadau, am firysau neu feddalwedd maleisus.  Dylech fod yn ymwybodol bod gennych chi gyfrifoldeb dros sicrhau bod unrhyw neges e-bost y byddwch yn ei hanfon o fewn terfynau’r gyfraith.

Cwynion neu ymholiadau

Rydym yn ceisio cyflawni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol.  O’r herwydd, byddwn yn ystyried unrhyw gwynion y byddwn yn eu cael am hyn yn ddifrifol iawn.  Rydym yn annog pobl i ddwyn ein sylw at unrhyw achos lle y maent o’r farn bod ein gweithgarwch casglu neu’n defnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.  Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau er mwyn gwella ein gweithdrefnau hefyd.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn y tro diwethaf ym mis Mai 2018.

Sut i gysylltu â ni Os hoffech ofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon neges e-bost atom, sef admin@advocacywestwales.org.uk neu ysgrifennu at:

This site is protected by wp-copyrightpro.com