Sir Gaefyrddin

Mae sir Gaerfyrddin yn darparu’r gwasanaethau canlynol

  1. Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA)

Mae gallu manteisio ar IMHA yn hawl statudol i bobl o unrhyw oed yn yr ysbyty, sy’n cael eu trin neu’n cael eu hasesu am gyflwr iechyd meddwl, os ydynt dan gadwad dan y rhan fwyaf o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl neu beidio.  Yn ogystal, mae gan bobl yr hawl i gael IMHA pan fyddant yn byw yn y gymuned dan warcheidiaeth, gorchymyn triniaeth gymunedol (CTO), rhyddhad amodol neu absenoldeb Adran 17 estynedig.  Pan fydd rhywun dan gadwad mewn ysbyty neu ar CTO, gall fod yn brofiad dryslyd a gofidus iawn.  Mae IMHAs yn annibynnol ar iechyd meddwl a gwasanaethau eraill, a byddant yn eich helpu i ystyried eich dewisiadau, sicrhau y clywir eich safbwyntiau, gwneud penderfyniadau gwybodus a deall ac arfer eich hawliau.  Gall IMHA wneud gwahaniaeth mawr i brofiad pobl o fod dan gadwad ac fe’u gwerthfawrogir yn fawr gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.  Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos mai dim ond tua hanner y bobl y mae ganddynt yr hawl i gael IMHA sy’n cael un mewn gwirionedd.

Cysylltwch â:  Sue Williams neu Peggy Spooner ar

Ffôn:  01267 223197 Neu defnyddiwch ein ffurflen gysylltu ar-lein Neu anfonwch ein ffurflen gyfeirio yma at imha@advocacywestwales.org.uk

Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth

2. Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae hwn yn darparu cymorth eiriolaeth annibynnol 1:1 uniongyrchol i unigolion sydd â phroblem iechyd meddwl ddifrifol, y maent yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin

Gyda phwy yr ydym yn gweithio? Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n cael help gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol neu bobl sy’n teimlo bod angen iddynt gael mwy o help gyda’u hiechyd meddwl nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd.

Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau, yn ogystal â’r rhai yr aseswyd eu bod heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol.

Beth yw ein rôl?

Byddwn yn archwilio beth yw problemau cleient gyda nhw, a sut y gall eiriolwr eu cynorthwyo.  Ein rôl yw helpu pobl i gymryd rhan mor lawn ag y bo modd er mwyn dylanwadu ar unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.  Os nad ydym yn gallu bodloni eich anghenion o fewn ein gwasanaeth, os oes modd, byddwn yn gwneud ein gorau i geisio’ch cyfeirio at rywun a fydd yn gallu helpu efallai.

Cysylltwch â

neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein

Cliciwch y ddolen hon am y ffurflen Cyfeiriad Cymunedol Sir Gaerfyrddin:  Clare Singleton

Ffôn:  01267 231122 – mae gwasanaeth peiriant ateb 24 awr yn cael ei weithredu

3. Gwasanaethau gofalwyr

Rydym yn darparu cymorth eiriolaeth ar gyfer gofalwyr unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ein cangen yng Nghaerfyrddin.  Nod y prosiect yw helpu gofalwyr i fanteisio ar eu hawliau a’u cynorthwyo i fanteisio ar wasanaethau y gallent eu cynorthwyo e.e.  seibiant, budd-daliadau, cynllunio gofal.  Gallwn ddarparu cymorth sy’n cynnwys asesiadau gofalwyr a chymorth pan gaiff yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt eu rhyddhau o’r ysbyty neu o ofal seibiant.

Nid yw’r rhan fwyaf o ofalwyr yn gwybod eu bod yn ofalwyr, neu nid ydynt yn ystyried eu hunain fel gofalwyr, felly efallai na fyddant yn siŵr pa hawliau sydd ganddynt.

Efallai y bydd angen cymorth ar rai gofalwyr wrth iddynt ddod i wybod sut i fanteisio ar wasanaethau neu’r hyn y dylid gofyn amdano, megis y broses o sicrhau atwrneiaeth.  Yn ogystal, gallwn eu cynorthwyo i ddarganfod gwybodaeth am grwpiau cymorth lleol i ofalwyr, yn ogystal â’u cynorthwyo i fanteisio ar eu hawliau.  Rydym yma i roi llais i ofalwyr, yn ogystal â mynediad i’w hawliau.  Weithiau, bydd angen cymorth ar y gofalwr wrth wybod yr hyn i’w wneud er mwyn cynorthwyo’r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt.  Byddem yn cyfeirio ac yn cynnig cymorth am y mater penodol hwnnw.  Yna, gallwn gynnig cymorth eiriolaeth ar gyfer yr unigolyn sy’n cael gofal hefyd, fel bod y gofalwr a’r sawl sy’n cael gofal yn gallu manteisio ar eiriolaeth annibynnol.

Am ragor o wybodaeth am eiriolaeth i ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â Peggy Spooner neu Sue Williams ar 01267 231122.  Elaine Lewis yw ein heiriolwr gofalwyr penodol neu gallwch ddefnyddio ein ffurflen gyswllt gyfrinachol

Arolwg Carers UK

Mae Carers UK wedi lansio arolwg newydd i ofalwyr di-dâl er mwyn helpu i ddeall sut mae pandemig COVID-19 yn parhau i effeithio ar fywydau gofalwyr.  Mae’r arolwg ar agor tan 27 Medi a bydd eich safbwyntiau yn helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.  A fyddech gystal â’i lenwi trwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Taflenni Eiriolaeth Gorllewin Cymru Trowch at daflenni Eiriolaeth Gorllewin Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth

This site is protected by wp-copyrightpro.com