Ymddiriedolwyr

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Eirolaeth Gorllewin Cymru– Llais pan fydd ei angen arnoch fwyaf

Mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn elusen iechyd meddwl annibynnol sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol cynhwysfawr yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Y Bwrdd Ymddiriedolwyr presennol yw:

Cadeirydd:  Andy Watters

Hyfforddodd Andy fel gweithiwr cymdeithasol ac mae wedi cyflawni rolau amrywiol wrth gynorthwyo pobl sydd ag anableddau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac anableddau eraill cyn dod yn hyfforddwr ac yn ddarlithydd addysg bellach ac uwch.  Bu’n weithgar yn undeb llafur y darlithwyr ac yn aelod o bwyllgor gweithredol Rhanbarth Cymru. Ar ôl ymddeol, bu’n gwneud gwaith rhan-amser yn cynorthwyo pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn uniongyrchol, gan gynghori ynghylch arfer da ar gyfer staff a materion iechyd a diogelwch.  Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn Hawliau Dynol ac mae wedi bod yn un o ymddiriedolwyr AWW/EGC er 2013

Trysorydd:  Carolyn Oakley

Ymddiriedolwr:  Emlyn Schiavone

Personol:  Priod Tina, pump o blant a dau ŵyr.

Cymwysterau:  Tystysgrif Addysg, Diploma mewn Astudiaethau Addysgol Uwch, Baglor Athroniaeth mewn Astudiaethau Addysgol.

Cefndir proffesiynol:  Gweithiwr cymdeithasol gwirfoddol gyda Kingsway Community er mwyn cynorthwyo pobl digartref yn Llundain.  Prif Swyddog Gofal Plant mewn ysgol arbennig breswyl yng Nghaerfyrddin.  Athro Cyfrifol mewn Uned Arbennig yn Llanelli.  Swyddog Addysg Arbennig a Rheolwr Gwasanaethau i Blant gyda Chyngor Sir Dyfed a Chyngor Sir Gâr.Cyfrifoldebau presennol:  Cynghorydd Tref a Sir ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin;  cyn Faer Caerfyrddin;  Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd Parc Richmond;  Llywodraethwr, Ysgol Gynradd Ysgol y Dderwen;  Aelod o Banel yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys;  Aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Ieuenctid Caerfyrddin Dr. Mz;  Aelod o Bwyllgor Hosbis Tŷ Cymorth, Caerfyrddin; Aelod o Bwyllgor Llyfrau Llafar i’r Deillion, Caerfyrddin;  Aelod o Gynllun Gweinidogion Stryd Night Light Caerfyrddin;  Cadeirydd Menter Dementia Caerfyrddin;  Cadeirydd Tîm Cymorth Lles, Iechyd ac Emosiynol Caerfyrddin;  Cadeirydd Ymddiriedolwyr Oriel Myrddin, Caerfyrddin;  Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Deuluol Caerfyrddin;  Ymddiriedolwr Advocacy West Wales / Eiriolaeth Gorllewin Cymru

Ymddiriedolwr:  Jane Kelso

Ymddiriedolwr:  Helen Butland

A hoffech chi fod yn aelod neu’n ymddiriedolwr?

Rolau gwirfoddol yw’r rhain – mae treuliau ar gael.  Mae’r oriau yn unol â’r hyn y mae’r rôl yn gofyn amdano – cynhelir cyfarfodydd yr ymddiriedolwyr bob yn ail fore dydd Mercher bob mis yn Hwlffordd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Rydym yn gwerthfawrogi eich diddordeb mewn bod yn un o Ymddiriedolwyr Eiriolaeth Gorllewin Cymru

Mae bod yn ymddiriedolwr yn brofiad gwerth chweil.  Mae’n cynnig cyfle i chi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.  Gallwch ddefnyddio’r sgiliau sydd gennych yn barod a datblygu rhai newydd.  Byddwch yn cyfarfod pobl newydd, ymhlith yr ymddiriedolwyr ac o fewn tîm y staff, ac yn cael y cyfle i weithio fel rhan o’r tîm.  Byddwch yn gwybod eich bod wedi gallu cyfrannu at helpu unigolion i deimlo eu bod yn cael eu clywed, a’u bod yn gallu dylanwadu ar eu bywydau eu hunain, yn aml ar adeg o argyfwng neu bryder.

Am becyn ymgeisio i fod yn ymddiriedolwr, anfonwch e-bost at:

admin@advocacywestwales.org.uk neu ffoniwch 01437 762935Neu, gallwch lawrlwytho Pecyn Gwybodaeth i Ymddiriedolwyr a ffurflen gais i fod yn Ymddiriedolwr

This site is protected by wp-copyrightpro.com