Eiriolaeth

Eirolaeth Gorllewin Cymru– Llais pan fydd ei angen arnoch fwyaf

Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Os ydych chi yn yr ysbyty ac yn cael eich trin neu’n cael eich asesu am gyflwr iechyd meddwl, neu os ydych yn byw yn y gymuned dan adran o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, mae gennych chi yr hawl i gael help gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.  Gallwn eich cynorthwyo i fynegi eich safbwyntiau, gan sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.  Byddwn yn gweithio trwy’r dewisiadau a’r canlyniadau ac yn eich helpu i ddeall, ac yn amddiffyn eich hawliau.  Mae’n gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn bwysicach oll, mae’n annibynnol ar yr holl wasanaethau eraill.

Os hoffech chi neu aelod o’r teulu siarad ag eiriolwr, gallwch ein ffonio ar 01437 762935 os ydych yn byw yng Ngheredigion neu Sir Benfro, a 01267 223197 os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn darparu gwasanaeth cymunedol yn Sir Benfro.  Mae’n gwasanaeth cymunedol yn wasanaeth amser llawn sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi manteisio ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gorffennol neu y maent yn ceisio manteisio ar wasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd.  Os hoffech gael gwybod mwy, gan gynnwys a allai’r gwasanaeth hwn fod o gymorth i chi, mae croeso i chi ffonio ein swyddfa ar 01437 762935 i siarad gydag aelod o staff.

Os ydych chi’n weithiwr iechyd meddwl proffesiynol ac os hoffech gyfeirio rhywun yn eich gofal, cysylltwch â’r gwasanaeth neu ewch ati i lenwi’r ffurflen gyfeirio isod gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir yn y ffurflen.

Ffurflen Gyfeirio IMHA – Saesneg Ffurflen Gyfeirio IMHA – Cymraeg

This site is protected by wp-copyrightpro.com