Eirolaeth Gorllewin Cymru– Llais pan fydd ei angen arnoch fwyaf
Natasha Fox – Prif Swyddog
Rydw i wedi bod yn gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol gydag Eiriolaeth Gorllewin Cymru (MAP yn flaenorol) er 2012. Cyn hyn, cefais yrfa hir ym maes y gyfraith, a fu o fantais i mi ar gyfer rhai agweddau ar y rôl hwn. Rydw i’n teimlo’n gryf iawn am y rôl a gyflawnir gan eiriolwyr annibynnol wrth helpu pobl i ystyried eu dewisiadau, cyfleu eu safbwyntiau a sicrhau bod eu hawliau dynol a chyfreithiol yn cael eu parchu.
Kate Bailey – Eiriolwr Cymunedol/Arweinydd Proffesiynol
Rydw i wedi bod yn gweithio fel yr Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol yn Sir Benfro er 2009. Cyn fy rôl fel eiriolwr, gweithiais mewn ystod eang o feysydd cyflogaeth yn y sector statudol a gwirfoddol. Roedd y rolau hyn wastad yn cynnwys gweithio gyda phobl o wahanol gefndiroedd ac oedrannau.
Nia Williams – IMHA (Sir Gaerfyrddin)
Rydw i wedi bod yn Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol gydag Eiriolaeth Gorllewin Cymru er 2014. Cyn hyn, treuliais flynyddoedd yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac ym maes gofal cymdeithasol gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu y maent wedi dioddef cam-drin domestig. Mae fy holl rolau wedi cynnwys grymuso pobl, ac rydw i’n siaradwr Cymraeg hefyd.
Sarah Thomas – IMHA (Sir Gaerfyrddin)
Rydw i wedi gweithio mewn mudiadau gwirfoddol ers sawl blynedd, gan gynorthwyo oedolion a phobl ifanc, a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Mae gen i brofiad o weithio ym maes cam-drin domestig hefyd a gydag oedolion hŷn sydd â Dementia. Fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol, rydw i’n gweithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu, ymddygiad heriol a phroblemau iechyd meddwl, mewn ysbytai yn bennaf, ond hefyd yn y gymuned. Rydw i’n dysgu Cymraeg.
Sue Williams – IMHA (Sir Gaerfyrddin)
Rydw i wedi gweithio fel IMHA ar gyfer Eiriolaeth Gorllewin Cymru er 2015. Credaf mai grym fy rôl i yw cynnig clust i wrando pan fydd pobl ar eu mwyaf agored i niwed a’u cynorthwyo i gael eu clywed ar adeg pan y gallant deimlo heb rym. Ers symud yn ôl i Gymru 10 mlynedd yn ôl, rydw i wedi gweithio fel gweithiwr cymorth mewn lleoliad preswyl gyda phobl sydd ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol, mewn lleoliad cymunedol gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a gyda menywod a phlant sy’n dioddef cam-drin domestig. Treuliais dymor ar Ynys Sgomer hefyd yn gweithio fel swyddog gwasanaethau ymwelwyr. Rydw i wedi gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda’r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt, ac ar hyn o bryd, rydw i’n ymwneud â chynllun tyfu llysiau organig lleol.
Rebecca Arnold – Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol – (Sir Benfro)
Mae gennyf dros 8 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gwirfoddol gydag oedolion, plant a phobl ifanc. Mae fy ngwaith wedi cynnwys cydlynu prosiect Iechyd Meddwl Amenedigol, cynorthwyo teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig ac eiriolaeth i ddinasyddion ar brosiect Llais Cymunedol. Mae gennyf brofiad o weithio gydag oedolion hŷn yn eu cartrefi hefyd ac mewn lleoliad gofal. Dechreuais ddysgu Cymraeg pan symudais i Orllewin Cymru yn 2014 ac rydw i’n bwriadu parhau nes byddaf yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Elaine Lewis
Rydw i’n Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin gydag Eiriolaeth Gorllewin Cymru ac yn flaenorol, roeddwn yn cyflawni’r un rôl ac yn cael fy nghyflogi gan Eiriol. Mae gennyf gefndir gwybodus am y profiadau y bydd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu weithiau, y rhwystrau y byddant yn dod ar eu traws efallai, pwysigrwydd sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac ymwneud yn fwy â phenderfyniadau a wneir am eu bywydau. Mae gennyf wybodaeth ymarferol dda o eiriolaeth hefyd, ar ôl treulio dros 20 mlynedd yn gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector sydd wedi cynnwys gwaith allgymorth yn ogystal ag eiriolaeth. Rydw i wedi cynorthwyo pobl a theuluoedd i gyflawni eu nodau trwy weithio trwy eu dewisiadau, eu hawliau a sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu clywed. Mae gennyf Radd BA gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Eiriolaeth ac mae gennyf Dystysgrif Addysg Uwch mewn Eiriolaeth. Rydw i’n siaradwr Cymraeg ac yn fy amser rhydd, rydw i’n credu’n gryf mewn manteision byd natur ar gyfer lles.
Clare Singleton
Bu Clare yn eiriolwr gydag Eiriol er 2012 cyn symud i Eiriolaeth Gorllewin Cymru. Yn flaenorol, bu Clare yn gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl amrywiol i oedolion yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio mewn lleoliadau preswyl ac yn y gymuned, ac mae wedi cael hyfforddiant llawn ym maes Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA) ac Eiriolaeth Heb Gyfarwyddyd. Mae gan Clare dystysgrif Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig (ASIST) mewn cymorth cyntaf mewn achosion hunanladdiad. Mae hi’n Gyfaill Dementia ac wedi cymhwyso yn 2018 i arwain grwpiau darllen ar y cyd. Mae ganddi ddyfarniad gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM) hefyd ym maes arwain timau. Yn ei hamser rhydd, mae Clare yn arddwraig frwdfrydig.
Peggy Spooner
Mae gan Peggy radd meistr mewn Astudiaethau Cymdeithasol. Cyn ymuno ag Eiriolaeth Gorllewin Cymru, bu’n gweithio i Eiriol a bu’n rheoli system eiriolaeth ‘Brysbennu, Dyletswydd a Chronfa’ Eiriol, sydd wedi cynyddu rheolaeth cyfeiriadau cleientiaid mewn ffordd fuddiol. Mae Peggy yn darparu cymorth ar gyfer yr eiriolwr ac yn rheoli’r system cofnodi data sy’n mesur canlyniadau cleientiaid. Hi yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer cyfeiriadau ac ymholiadau. Mae Peggy yn meddu ar gymhwyster gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM). Mae Peggy yn Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia; mae’n swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ac mae wedi cael hyfforddiant ynghylch cyfryngau cymdeithasol, offerynnau digidol a rheoli cleientiaid anodd. Mae Peggy yn bobydd brwd medrus ac mae hi’n mwynhau paentio a braslunio.
Sue Blantern – Gweinyddwr/Rheolwr Swyddfa
Ar ôl bod yn gweithio yn y sector gwirfoddol er 1998, mae gen i brofiad eang mewn amrediad o sefydliadau a rolau elusennol. Mae fy nghefndir ym maes cymorth a hyfforddiant TGCh cymunedol, ynghyd â gweinyddu a chydlynu prosiectau. Rydw i’n Rheolwr Swyddfa i AWW-EGC, gan gynorthwyo’r Prif Swyddog, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r eiriolwyr mewn swydd amrywiol a diddorol. Mae fy ngwaith yn cynnwys gwaith swyddfa gweinyddol, cyflogres, AD a phrosesau ariannol ymhlith sawl peth. Gan mai gwaith rhan-amser yr wyf yn ei wneud i AWW-EGC, rydw i’n gweithio fel tiwtor TG a hyfforddwr TGCh ar fy liwt fy hun hefyd y tu allan i’r sefydliad.
Jayne Edwards – Swyddog Gwybodaeth BSc (anrh) IST, TAR (TG)
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym maes TG ac wedi sicrhau cymhwyster ar lefel ôl-raddedig, rydw i wedi gweithio fel dadansoddwr cymwysiadau, hyfforddwr/athro TG a pheiriannydd cymwysiadau ym mhurfeydd Sir Benfro. Rydw i wedi ymuno ag Eiriolaeth Gorllewin Cymru fel Swyddog Gwybodaeth er mwyn cynorthwyo i wella ac uwchraddio systemau, gweithredu strategaeth cyfryngau cymdeithasol a gweithio gyda’r prif swyddog i baratoi ystadegau ar gyfer y rheolwyr ac adrannau’r llywodraeth.